Enghraifft o: | risg iechyd, dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd, disgyblaeth academaidd |
---|---|
Math | overnutrition, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gordewdra yw'r cyflwr meddygol hwnnw pan fo lefel uchel o fraster mewn person fel ei fod ef (neu hi) yn methu a gwneud rhai pethau ac yn cael effaith niweidiol ar ei iechyd.[1][2] Ystyrir person yn or-dew pan fo'u cymhareb taldra-pwysau (body mass index (BMI)) yn uwch na 30 kg/m2.[3] Cyrhaeddir y ffigwr hwn drwy gymaru'r taldra (mewn metrau) a'r pwysau (mewn cilogramau).
Mae gordewdra'n codi'r tebygolrwydd o broblemau sy'n ymwneud â'r galon, clefyd y siwgwr math 2, rhai mathau o gansar, apnea cwsg a chryd y cymalau.[2] Caiff ei achosi drwy orfwyta, diffyg cadw'n heini a rhesymau etifeddol. Ar adegau prin gall hefyd gael ei achosi gan y genynnau, gwendidau yn yr endocrin, meddyginiaethau neu wendid meddwl. Mae'r dystiolaeth mai metaboledd araf ydy'r achos (ac nid gorfwyta) yn wan iawn.[4][5]
Ledled y byd, ystyrir gordewdra yn un o'r prif afiechydon angheuol y gellir ei atal. Mae ar gynnydd ers rhai blynyddoedd ac fe'i ystyrir yn un o brif problemau iechyd cyhoeddus, mewn oedolion a phlant.[6] Mewn rhai rhannau o Ewrop, caiff y claf ei ddychanu; mewn rhannau eraill caiff ei gyfri fel person cyfoethog.[2][7] Yn 2013 diffiniodd Cymdeithas Feddygol America'r cyflwr yn "afiechyd".[8][9]
|website=
(help)