![]() | |
Enghraifft o: | nod masnach, alcohol brand ![]() |
---|---|
Math | dry gin ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1769 ![]() |
Perchennog | Diageo ![]() |
Gwefan | https://gordonsgin.com ![]() |
![]() |
Brand o jin sych Llundeinig yw Gordon's Gin, a gynhyrchwyd gyntaf yn 1769. Y marchnadoedd gorau ar gyfer Gordon's yw'r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau, a Gwlad Groeg.[1] Y cwmni gwirodydd Prydeinig Diageo sydd biau'r cwmni. Yn y Deyrnas Unedig, caiff ei wneud yn Nistyllfa Cameron Bridge yn Fife, yr Alban (er gall blasau gwahanol gael eu hychwanegu yn rhywle arall). Dyma'r jin Llundeinig sydd yn gwerthu orau yn y byd.[2]