Cofeb Llywelyn ap Gruffydd ('Llywelyn ein Llyw Olaf') yng Nghilmeri, lle'r lladdwyd ef | |
Enghraifft o: | conquest, cyfeddiannaeth |
---|---|
Dechreuwyd | 1277 |
Daeth i ben | 1283 |
Roedd Edward I, brenin Lloegr, yn gyfrifol am oresgyn Cymru ar ddau achlysur, yn ystod Rhyfel Cyntaf Annibyniaeth yn 1276-7 ac eto yn ystod Ail Ryfel Annibyniaeth yn 1282-3. Yn ystod yr ail oresgyniad, cafodd Llywelyn ap Gruffudd, Tywysog Cymru, ei ladd ger Cilmeri. Cipiwyd ei frawd, Dafydd ap Gruffudd, y flwyddyn wedyn, yn dod â'r ail ryfel i ben. O hyn ymlaen roedd Edward yn gallu rheoli dros Gymru. Roedd rhaid, fodd bynnag, ddinistrio gwrthwynebiad nifer o uchelwyr, gan gynnwys Rhys ap Maredudd, a wnaeth ddechrau gwrthryfel yn y de yn 1287, a Madog ap Llywelyn, a wnaeth hawlio'r teitl Tywysog Cymru mewn gwrthryfel yn 1294-5.
Tuedd strategol Edward oedd i adeiladu castell ar ddarn o dir yn syth byn wedi ei ennill. Codwyd cestyll mawr ar draws Gogledd Cymru, yn Harlech, Conwy, a Biwmares. Trodd Edward Gaernarfon yn brifddinas y gogledd ac adeiladodd Gastell Gaernarfon rhwng 1285 a 1322, ac yno bu eni ei fab, y Tywysog Cymru cyntaf o frenhiniaeth Lloegr, a ddaeth yn hwyrach yn y Brenin Edward II.