Math | pentref, cymuned, plwyf |
---|---|
Poblogaeth | 4,066, 5,080 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,656.54 ha |
Cyfesurynnau | 51.8042°N 4.0747°W |
Cod SYG | W04000504 |
Cod OS | SN570137 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Adam Price (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Jonathan Edwards (Annibynnol) |
Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Gors-las[1] neu Gorslas.[2] Saif y pentref ar briffordd yr A476 i'r gogledd-orllewin o dref Rhydaman. Saif yn y maes glo carreg, ac arferai'r diwydiant glo fod yn bwysig iawn yma.
Heblaw pentref Gorslas, mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Cefneithin, Capel Seion, Foelgastell a Dre-fach. Yn y gymuned yma hefyd mae Llyn Llech Owain, a gysylltir a chwedlau am Owain Lawgoch. Cynhaliwyd cyfarfod mawr ar lan y llyn yn 1843 yn ystod Helyntion Beca.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[4]
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 3,716, gyda 78.61% yn medru rhywfaint o Gymraeg.