Math | gorsaf reilffordd ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1840 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Bae Caerdydd ![]() |
Sir | Caerdydd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4671°N 3.1665°W ![]() |
Cod OS | ST190748 ![]() |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 1 ![]() |
Côd yr orsaf | CDB ![]() |
Rheolir gan | Trafnidiaeth Cymru ![]() |
![]() | |
Mae gorsaf reilffordd Bae Caerdydd (Saesneg: Cardiff Bay railway station), a adnabyddid gynt fel "Caerdydd Heol Bute", yn orsaf sydd yn gwasanaethu Bae Caerdydd ac ardal Tre-Biwt. Mae'n derfyn deheuol Llinell Gangen Butetown un filltir (1.5 km) i'r de o orsaf Heol y Frenhines.
Dim ond un llwyfan sydd bellach yn cael ei defnyddio, gydag adeilad yr orsaf ei hun wedi'i gadael i fynd a'i ben iddo i bob pwrpas. Mae adeilad yr orsaf yn gorwedd ar Stryd Bute, er bod gweddill yr orsaf yn parhau i fod yn weladwy o Rodfa Lloyd George.
Mae'r orsaf o fewn pellter cerdded i'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru.
Mae gwasanaethau teithwyr yn cael eu darparu gan Trafnidiaeth Cymru.