Gorsaf reilffordd Penn, Efrog Newydd yw’r prif orsaf reilffordd yn Efrog Newydd ac yr un brysuraf yn yr hemisffer gorllewinol, gyda 600,000 o deithwyr yn ddyddiol erbyn 2019.[1][2]
Mae’r orsaf yn hollol danddaearol, o dan Gardd Sgwâr Madison ynghanol Manhattan ac yn cynnwys 21 o draciau.Defnyddir yr orsaf gan Amtrak, New Jersey Transit, PATH, Rheilffordd Long Island ac hefyd bysiau a Rheilffordd Danddaearol Efrog Newydd, (y Subway).