Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1846 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Rhos-ddu |
Sir | Rhos-ddu |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 84 metr |
Cyfesurynnau | 53.0508°N 3.0014°W |
Cod OS | SJ329508 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 4 |
Nifer y teithwyr | 313,872 (–1998), 338,671 (–1999), 371,996 (–2000), 377,856 (–2001), 379,624 (–2002), 364,267 (–2003), 391,693 (–2005), 401,242 (–2006), 436,468 (–2007), 487,713 (–2008), 534,256 (–2009), 584,176 (–2010), 613,618 (–2011), 622,466 (–2012), 615,306 (–2013), 590,968 (–2014), 551,966 (–2015), 537,962 (–2016), 522,218 (–2017), 492,390 (–2018) |
Côd yr orsaf | WRX |
Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru, KeolisAmey Cymru |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae gorsaf reilffordd Wrecsam Cyffredinol (Saesneg: Wrexham General) yn gwasanaethu tref Wrecsam yng ngogledd-ddwyrain Cymru. Mae'n cael ei gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru, ond mae gwasanaethau'n cael eu darparu hefyd gan Drenau Virgin sy'n gweithredu gwasanaeth drên unwaith y dydd i Lundain Euston ac yn ôl, sy'n mynd trwy Caer. Hyd at Ionawr 2011, roedd cwmni Wrecsam a Swydd Amwythig hefyd yn gweithredu oddi yma i Lundain Marylebone.
Mae trenau i'r Gogledd yn mynd i Gaer ac weithiau ymlaen i Gaergybi. Mae trenau i'r De yn mynd i Gaerdydd neu i Birmingham. Mae trenau Wrecsam (Canolog) – Bidston yn defnyddio platfform 4, rhan o'r hen orsaf reilffordd Cyffordd Wrecsam.
Adeiladwyd yr orsaf ym 1846 ac fe'i ailadeiladwyd ym 1912. Agorwyd caffi a phlatfformau newydd yn 2008. Yn 2011 ailadeiladwyd platform 4 a phont droed, ac yn 2012 estynnwyd y caffi.