Goruchafiaeth y gwynion

Goruchafiaeth y gwynion
Enghraifft o:ideoleg wleidyddol, gwahaniaethu, ideoleg, ffugwyddoniaeth Edit this on Wikidata
MathCenedlaetholdeb croenwyn, hiliaeth, idioleg goruchafiaeth, goruchafiaeth ethnig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y gred hiliol bod pobl groenwyn yn rhagori ar hiliogaethau eraill yn naturiol, ac sydd felly'n mynnu y dylai'r gwynion dra-arglwyddiaethu dros bobloedd eraill, yw goruchafiaeth y gwynion. Mae'r fath safbwyntiau yn tarddu o hiliaeth wyddonol ac yn aml yn dibynnu ar ddadleuon ffug-wyddonol. Megis neo-Natsïaeth a mudiadau tebyg, mae goruchafiaethwyr croenwyn fel rheol yn gwahaniaethu yn erbyn Iddewon yn ogystal â phobloedd o liwiau eraill i'w crwyn.

Defnyddir yr ymadrodd yn aml i ddisgrifio ideoleg wleidyddol sy'n arddel goruchafiaeth y bobl wynion mewn cymdeithas a gwleidyddiaeth yn y modd buont yn hanesyddol, er enghraifft masnach gaethweision yr Iwerydd, deddfau Jim Crow ac arwahanu yn yr Unol Daleithiau, ac apartheid yn Ne Affrica.[1][2] Cynigir diffiniadau amrywiol o bwy sy'n wyn gan yr amryw ffurfiau sydd ar oruchafiaeth y gwynion, ac mae mudiadau gwahanol o oruchafiaethwyr yn cydnabod grwpiau ethnig neu ddiwylliannol gwahanol yn brif elyn yr hil wen.[3]

Yn y byd academaidd, yn enwedig damcaniaethau beirniadol o ran hil ac intersectionality, gall yr ymadrodd "goruchafiaeth y gwynion" gyfeirio at gyfundrefn wleidyddol neu economaidd-gymdeithasol sydd yn rhoi mantais strwythurol, neu fraint, i wynion ar draul grwpiau ethnig eraill.

Nid yw goruchafiaeth y gwynion yn gyfystyr â balchder croenwyn, cenedlaetholdeb croenwyn, ymwahaniaeth groenwen, nac hunaniaeth groenwen, er bod y cysyniadau a'r credoau hyn i gyd yn cydgyffwrdd yn aml.

  1. Wildman, Stephanie M. (1996). Privilege Revealed: How Invisible Preference Undermines America. NYU Press. t. 87. ISBN 978-0-8147-9303-9.
  2. Helms, Janet (2016). "An election to save White Heterosexual Male Privilege". Latina/o Psychology Today 3: 6–7.
  3. Flint, Colin (2004). Spaces of Hate: Geographies of Discrimination and Intolerance in the U.S.A. Routledge. t. 53. ISBN 978-0-415-93586-9. Although white racist activists must adopt a political identity of whiteness, the flimsy definition of whiteness in modern culture poses special challenges for them. In both mainstream and white supremacist discourse, to be white is to be distinct from those marked as non-white, yet the placement of the distinguishing line has varied significantly in different times and places.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne