Grace Darling | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Tachwedd 1815 ![]() Bamburgh Castle ![]() |
Bu farw | 20 Hydref 1842 ![]() Bamburgh Castle ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Galwedigaeth | ceidwad goleudy ![]() |
Merch i geidwad goleudy yn Lloegr oedd Grace Horsley Darling (24 Tachwedd 1815 – 20 Hydref 1842). Daeth yn enwog am achub bywydau morwyr o longddrylliad y Forfarshire yn 1838. Tarodd y stemar olwyn y creigiau ger Ynysoedd Farne oddi ar arfordir Northumberland yng ngogledd-ddwyrain Lloegr; achubwyd bywydau naw o'r morwyr.