Defnyddir Graddfa maint moment (a dalfyrir o'r enw gwreiddiol arno, sef: moment magnitude scale ac a ddynodir fel MW) gan seismolegwyr i fesur maint daergrynfeydd yn nhermau'r ynni sy'n cael ei ryddhau ohono.[1] Caiff ei ddiffinio gan fformiwla lle mae'r foment seismig yn hafal i hyblygrwydd y Ddaear wedi'i luosi gyda swm y "llithro" a maint yr ardal a lithrodd. Datblygwyd y raddfa hon yn 1979 gan seismolegwyr o Caltech: Thomas C. Hanks a Hiroo Kanamori i ddisodli'r hen Raddfa Richter (ML). Y raddfa maint moment yw'r raddfa a ddefnyddir, bellach, drwy'r byd i fesur daeargrynfeydd o faint canolig neu uwch.