Graham Norton | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Graham William Walker ![]() 4 Ebrill 1963 ![]() Clondalkin ![]() |
Man preswyl | Wapping, Dinas Efrog Newydd, Ahakista, Droichead na Bandan ![]() |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, digrifwr, cyflwynydd radio, newyddiadurwr, actor ffilm, colofnydd, bywgraffydd ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Graham Norton Show, So Graham Norton, V Graham Norton ![]() |
Priod | Jono McLeod ![]() |
Partner | Tina Burner ![]() |
llofnod | |
![]() |
Digrifwr, actor a chyflwynydd rhaglenni teledu o Iwerddon yw Graham William Walker (ganed 4 Ebrill 1963), sy'n fwy adnabyddus o dan ei enw llwyfan Graham Norton.
Daeth yn enwog fel cyflwynydd ar Channel 4 yn y Deyrnas Unedig, a hefyd o ganlyniad i'w rôl fel y Tad Noel Furlong yn y gyfres deledu adnabyddus Father Ted. Er iddo ymddangos mewn tair rhaglen yn unig, roedd ei bortread o Father Noel yn hynod boblogaidd gyda'r gwylwyr. Mae Norton yn agored fel dyn hoyw ac yn unig o enwogion hoyw mwyaf poblogaidd Iwerddon. Mae ef bellach wedi symud o Sianel 4 i'r BBC ac yn cyflwyno'r sioe siarad The Graham Norton Show
Mae'n cyflwyno sioe ar BBC Radio 2 a fe hefyd yw sylwebydd Cystadleuaeth Cân Eurovision gan gymryd y swydd o Terry Wogan yn 2009.
Roedd Norton yn gyd-berchennog So Television, y cwmni sy'n cynhyrchu eu raglenni amrywiol. Yn 2012, gwerthodd Norton y cwmni i ITV am oddeutu £17 miliwn.[1]