Enghraifft o: | tîm pêl-droed Americanaidd |
---|---|
Rhan o | NFC North |
Dechrau/Sefydlu | 1919 |
Perchennog | Green Bay Packers, Inc. |
Prif weithredwr | Mark Murphy |
Aelod o'r canlynol | National Football League |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://www.packers.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tîm pêl-droed Americanaidd proffesiynol a leolir yn ninas Green Bay, Wisconsin yw'r Green Bay Packers. Green Bay yw'r trydedd fasnachfraint hynaf yn y NFL, ar ôl cael eu trefnu a chwarae yn 1919. Noddwyd y clwb yn wreiddiol gan Gwmni Pacio Indiaidd, ac wedyn gan Gwmni Pacio Acme, oedd wedi prynu'r cwmni gwreiddiol. Yn dilyn problemau ariannol, gwerthwyd cyfrandaliadau ym mis Rhagfyr 1922,[1] ac mae'r Packers yr unig dîm cynghrair mawr dielw sy'n eiddo i'r cymunedol yn yr Unol Daleithiau.