Greta Gerwig

Greta Gerwig
Ganwyd4 Awst 1983 Edit this on Wikidata
Sacramento Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Barnard Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, dramodydd, actor ffilm, llenor, actor llais, sgriptiwr ffilm, cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata
SwyddLlywydd y Rheithgor yng Ngŵyl Cannes Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLady Bird, Little Women, Barbie Edit this on Wikidata
PriodNoah Baumbach Edit this on Wikidata
PartnerNoah Baumbach Edit this on Wikidata
Gwobr/auNational Board of Review Award for Best Director, Independent Spirit Award for Best Screenplay, Gwobr Time 100, Critics' Choice Movie Award for Best Original and Adapted Screenplay, Critics' Choice Movie Award for Best Original and Adapted Screenplay, Women of the Year Edit this on Wikidata
llofnod

Actores, sgriptiwraig a chyfarwyddwraig o'r Unol Daleithiau yw Greta Celeste Gerwig (/ˈɡɛrwɪɡ/; ganed 4 Awst 1983).[1][2] Daeth i sylw'n wreiddiol ar ôl gweithio ac ymddangos mewn nifer o ffilmiau mumblecore.[3][4] Rhwng 2006 a 2009, ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau gan Joe Swanberg, a bu iddi gyd-ysgrifennu a chyd-gyfarwyddo rhai ohonynt.

Ers ddechrau'r 2010au, mae Greta wedi cydweithio â Noah Baumbach ar sawl ffilm, gan gynnwys Greenberg (2010), Frances Ha (2012), a arweiniodd iddi gael ei henwebu am wobr Golden Globe, a Mistress America (2015). Mae hi hefyd wedi perfformio mewn ffilmiau megisDamsels in Distress (2011), To Rome with Love (2012), Jackie (2016), a 20th Century Women (2016).[5]

Yn 2017, ysgrifennodd Greta, a chyfarwyddo wrth i ehun am y tro cyntaf y ffilm ddrama-gomedi Lady Bird, a bu iddi ennill y wobr am Y Ffilm Orau – Cerddorol neu Gomedu yng ngwobrau'r Golden Globe. Am ei gwaith ar Lady Bird, cafodd hefyd ei henwebu am ddwy wobr Academi, am y Cyfarwyddwr Gorau a'r Ddrama Wreiddiol Orau ar gyfer y Sgrîn, ynghyd ag enwebiadau Golden Globe a BAFTA am y Ddrama Sgrîn Orau. Greta oedd y pumed menyw mewn hanes i gael ei henwebu yn y categori Cyfarwyddwr Gorau yn yr Oscars[6]

  1. Heyman, Stephen (28 Ionawr 2010). "The Nifty 50 | Greta Gerwig, Actress". T Magazine. The New York Times. Cyrchwyd 15 Mawrth 2010.
  2. "Noah Baumbach Hires Mumblecore's Meryl Streep, Readies Greenberg". New York Observer. 9 Chwefror 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-15. Cyrchwyd 15 Mawrth 2010.
  3. Bunbury, Stephanie (19 Gorffennaf 2013). "Real to reel: The rise of 'mumblecore'". The Sydney Morning Herald (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Ionawr 2018.
  4. "Sweetheart of Early-Adult Angst". NYMag.com. Cyrchwyd 9 Ionawr 2018.
  5. Thompson, Anne (2016-12-21). "'20th Century Women': How Mike Mills Empowered Annette Bening and Greta Gerwig". IndieWire (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Mawrth 2018.
  6. CNN, Sandra Gonzalez,. "Greta Gerwig's best director nomination is a huge deal". CNN. Cyrchwyd 2 Mawrth 2018.CS1 maint: extra punctuation (link)

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne