![]() | |
Math | municipality of Tunisia ![]() |
---|---|
Gefeilldref/i | Cisterna di Latina ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Nabeul ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 65.15 km² ![]() |
Uwch y môr | 48 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 36.61°N 10.5°E ![]() |
Cod post | 8030 ![]() |
![]() | |
Tref yn ardal Cap Bon, gogledd Tiwnisia yw Grombalia. Mae'n gorwedd ar groesffordd bwysig tua hanner ffordd rhwng Soliman i'r gogledd a dinas Nabeul i'r de.
Cysylltir Grombalia â'r brifddinas, Tiwnis, gan brif reilffordd y wlad ac mae rhwydwaith o fysus yn rhedeg oddi yno i sawl tref yn y Cap Bon a'r cyffiniau.
Mae'r rhan fwyaf o adeiladau'r dref yn gymharol fodern, ond mae'n adnabyddus i ysgolheigion pensaernïaeth Andalwsaidd Tiwnisia fel lleoliad El hammam el Kdim, baddondy cyhoeddus traddodiadol a adeiladwyd yn yr 17g pan sefydlwyd Grombalia gan ffoaduriaid o Al Andalus yn Iberia. Roedd yn rhan o'r palas a godwyd yn Grombalia gan Mustapha Cardanas.[1]