Guadalupe Victoria | |
---|---|
Portread o Guadalupe Victoria gan Carlos Paris | |
Ganwyd | 29 Medi 1786 Tamazula de Victoria |
Bu farw | 21 Mawrth 1845 o epilepsi San Carlos Fortress |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol, cyfreithiwr |
Swydd | Arlywydd Mecsico, Q21012296, Governor of Puebla |
Plaid Wleidyddol | Liberal Party |
Priod | María Antonieta Bretón |
llofnod | |
Milwr a gwleidydd o Fecsico oedd Guadalupe Victoria (Manuel Félix Fernández; 29 Medi 1786 – 21 Mawrth 1843) a fu'n arlywydd y Weriniaeth Ffederal Gyntaf o 1824 i 1829, yr arlywydd cyntaf yn hanes Mecsico.
Ganed Manuel Félix Fernández yn Tamazula (a leolir bellach yn nhalaith Durango), Nueva Vizcaya, Rhaglywiaeth Sbaen Newydd. Astudiodd y gyfraith yng Ngholeg San Ildefonso, Dinas Mecsico. Ymunodd â'r mudiad annibyniaeth ym 1812 a brwydrodd dan arweiniad y chwyldroadwr José María Morelos. Newidiodd ei enw i Guadalupe Victoria ("Ein Harglwyddes Guadalupe Fuddugoliaethus") er anrhydedd La Guadalupana, y ffurf ar y Forwyn Fair a fabwysiadwyd yn symbol cenedlaethol ym Mecsico ac yn arwyddlun y chwyldro. Yn sgil marwolaeth Morelos ym 1815, aeth Victoria ar herw ym mynyddoedd Veracruz a Puebla ac arweiniodd ymgyrch gerila yn erbyn y Sbaenwyr.[1]
Wedi buddugoliaeth y chwyldroadwyr yn y rhyfel annibyniaeth, nid oedd yn cytuno â choroni Agustín de Iturbide yn deyrn, ond ymlynodd wrth Gynllun Iguala (1821) er mwyn sicrhau annibyniaeth Mecsico oddi ar Ymerodraeth Sbaen. Ym 1823 ymunodd Victoria â gwrthryfel y Cadfridog Antonio López de Santa Anna yn erbyn yr Ymerawdwr Agustín, ac wedi cwymp Ymerodraeth Gyntaf Mecsico penodwyd Victoria yn aelod o'r llywodraeth dros dro.
Enillodd Victoria etholiad arlywyddol cyntaf Mecsico a fe'i urddwyd yn arlywydd y Weriniaeth Ffederal ar 10 Hydref 1824. Bu ffrygydau ymbleidiol yn amharu ar ei lywodraeth, ac ym 1827 ceisiodd yr Is-arlywydd Nicolás Bravo gipio grym. Llwyddodd y Cadfridogion Santa Anna a Vicente Guerrero i ostegu'r gwrthryfel yn ddigon hawdd, ond bu brad Bravo a'r ceidwadwyr yn gywilydd ar arlywyddiaeth Victoria.
Ildiodd yr arlywyddiaeth i Vicente Guerrero ar 1 Ebrill 1829 a threuliodd diwedd ei oes ar ei hacienda yn Veracruz. Bu farw o epilepsi yn Perote, Veracruz, yn 56 oed.