Gus Van Sant | |
---|---|
Ganwyd | Gus Green Van Sant, Jr. 24 Gorffennaf 1952 Louisville |
Man preswyl | Portland |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, ffotograffydd, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, golygydd ffilm, actor, cerddor, cyfarwyddwr |
Gwobr/au | Palme d'Or, Gwobr Cyfarwyddwr Gorau Cannes |
Cyfarwyddwr, sgriptiwr, ffotograffydd, cerddor ac awdur o'r Unol Daleithiau yw Gus Green Van Sant, Jr. (ganed 24 Gorffennaf 1952). Cafodd ei enwebu am Wobr yr Academi am Gyfarwyddo Good Will Hunting (1997) ac am ei ffilm Milk (2008). Enillodd y Palme d'Or yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes yn 2003 am ei ffilm Elephant. Mae'n byw ym Mhorland, Oregon.
Dechreuodd ei yrfa yn cyfarwyddo hysbysebion ar gyfer y teledu. Ers hynny, mae ef wedi ymdrin â themâu fel rhywioldeb dynol ac îs-ddiwylliannau cymdeithasol mewn modd diflewyn ar dafod. Mae ef ei hun yn ddyn hoyw sydd wedi dod allan.
Mae ei ffilmograffiaeth fel ysgrifennydd a chyfarwyddwr yn cynnwys addasiad o nofel Tom Robbins. Even Cowgirls Get The Blues. Roedd y cast yn cynnwys trawsdoriad eang o actorion, yn amrywio o Keanu Reeves, Roseanne Barr, Uma Thurman, a k.d. lang. Mae ei weithiau eraill yn cynnwys My Own Private Idaho, a oedd hefyd yn serennu Kneanu Reeves a'r diweddar River Phoenix. (Roedd Van Sant hefyd yn bwriadu cyfarwyddo ffilm fywgraffiadol am fywyd Andy Warhol gyda Phoenix yn chwarae'r prif ran, ond canslodd y prosiect ar ôl marwolaeth Phoenix).