Gustav Mahler | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 7 Gorffennaf 1860 ![]() Kaliště, Kaliště ![]() |
Bu farw | 18 Mai 1911 ![]() Fienna ![]() |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Awstria, Cisleithania ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | arweinydd, cyfansoddwr, cyfansoddwr clasurol, arweinydd band ![]() |
Adnabyddus am | Symphony No. 1, Symphony No. 8, Symphony No. 2, Symphony No. 5, Symffoni Rhif 9 ![]() |
Arddull | cerddoriaeth glasurol, symffoni, cerddoriaeth siambr ![]() |
Tad | Bernhard Mahler ![]() |
Mam | Marie Herrmann ![]() |
Priod | Alma Mahler ![]() |
Plant | Anna Mahler, Maria Anna Mahler ![]() |
Gwefan | http://www.gustav-mahler.org ![]() |
llofnod | |
![]() |
Cyfansoddwr o Awstria oedd Gustav Mahler (7 Gorffennaf 1860 – 18 Mai 1911). Roedd yn fwyaf enwog yn ystod ei fywyd fel arweinydd opera a cherddorfeydd, ond ers ei farw daethpwyd i'w gydnabod fel un o'r cyfansoddwyr ôl-ramantaidd pwysicaf. Un o'i weithiau mwyaf poblogaidd yw ei 2ail symffoni, Yr Atgyfodiad.
Treuliodd y flwyddyn olaf o'i oes yn gweithio yn yr Unol Daleithiau fel cyfarwyddwr cerddorol Cerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd (1910-11). Ond syrthiodd yn sâl yn 1911 yn Efrog Newydd, ac ar ôl cysylltu gyda meddygon ym Mharis, ddychwelodd gyda'i wraig Alma Mahler i Fienna, Awstria lle bu farw.