Enghraifft o: | gwaith haearn |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Penydarren |
Roedd Gwaith Haearn Penydarren yn un o'r pedwar gwaith haearn mawr yn ardal Merthyr Tudful yn ne Cymru. Sefydlwyd y gweithfeydd yn 1784 gan y brodyr Samuel, Thomas a Jeremiah Homfray.
Gadawodd Samuel Homfray y busnes yn 1813. Yn 1819, y partneriaid oedd William Forman a William Thompson. Gwerthwyd y gwaith gan William Forman yn 1859, ac fe'i prynwyd gan berchenogion Gwaith Haearn Dowlais. Defnyddiwyd y gweithfeydd yn ysbeidiol hyd 1883, a gellir gweld rhai olion o hyd.
Gan mai eiddo perchenogion Gwaith Haearn Cyfarthfa yn bennaf oedd Camlas Morgannwg, adeiladodd gweithfeydd haearn eraill Merthyr dramffordd i Abercynon, a elwid wrth yr enw "Tramffordd Merthyr" yn swyddogol, ond yn aml fel "Tramffordd Penydarren". Defnyddiwyd y dramffordd yma gan Richard Trevithick i brofi ei locomotif ager cyntaf.