Gwas neidr gwyrdd | |
---|---|
Oedolyn benywaidd, Blackwell Forest Preserve, Illinois[1] | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Anisoptera |
Teulu: | Aeshnidae |
Genws: | Anax |
Rhywogaeth: | A. junius |
Enw deuenwol | |
Anax junius (Drury, 1773) |
Rhywogaeth o weision neidr ydy'r Gwas neidr gwyrdd (Lladin: Anax junius; Saesneg: green darner) sy'n perthyn i deulu'r Aeshnidae. Mae i'w weld yng Nghymru a gwledydd Prydain ac mae'n un o weision neidr mwyaf cyffredin Gogledd America ac yn y de, hyd at Panama.[2] Mae'n fudwr da, a gall deithio cryn bellter - o ogledd UDA i lawr i Fecsico.[3] Mae hefyd i'w gael yn y Caribî, Tahiti, ac Asia o Japan hyd at Tsieina.[4]
Mae'n un o'r gweision neidr mwyaf: gall yr oedolyn gwryw dyfu hyd at 76 mm (3.0 mod) gyda lled adenydd o 80 mm (3.1 mod).[4][5]
Mae'r fenyw yn dodwy mewn tyfiant ar lan llyn neu bwll - o dan wyneb y dŵr.