![]() Cregynog - cartref y wasg | |
Enghraifft o: | gwasg breifat, cyhoeddwr ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1922 ![]() |
Lleoliad | y Drenewydd ![]() |
Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru ![]() |
Pencadlys | y Drenewydd ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Gwefan | http://www.gwasg-gregynog.co.uk/ ![]() |
Gwasg breifat Gymreig yw Gwasg Gregynog, a sefydlwyd dan yr enw The Gregynog Press yn wreiddiol yn 1923 gan y chwiorydd a'r casglwyr celf Gwendoline a Margaret Davies o'r Drenewydd ym Mhowys. Enwir y wasg ar ôl plasdy Gregynog, ger Tregynon, cartref y chwiorydd.
Roedd ac y mae'r wasg yn cynhyrchu llyfrau cain - yn aml mewn argraffiadau cyfyngedig - wedi eu gosod a'u rhwymo â llaw. Mae'r llyfrau yn boblogaidd gan gasglwyr llyfrau cain ac yn denu prisiau uchel.