Enghraifft o: | gwasg prifysgol, cyhoeddwr |
---|---|
Rhan o | y fasnach lyfrau yng Nghymru |
Dechrau/Sefydlu | 1922 |
Gweithredwr | Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan |
Aelod o'r canlynol | Association of Learned and Professional Society Publishers |
Rhiant sefydliad | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant |
Pencadlys | Caerdydd |
Enw brodorol | Gwasg Prifysgol Cymru |
Gwefan | https://www.uwp.co.uk/ |
Gwasg Prifysgol Cymru yw prif gyhoeddwyr academaidd Cymru ac un o'r gweisg mwyaf blaenllaw yn y byd academaidd Celtaidd. Cafodd 'Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru' ei sefydlu yn 1922 fel un o fyrddau canolog Prifysgol Cymru (gyda'r Bwrdd Academaidd a'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd).
Mae'r Wasg yn cyhoeddi yn y Gymraeg a'r Saesneg ac wedi gwneud cyfraniad arbennig i ddiwylliant Cymru dros y blynyddoedd, yn arbennig ym meysydd cyhoeddiadau ar hanes Cymru, yr iaith Gymraeg a llenyddiaeth Gymraeg. Ymhlith ei chyhoeddiadau pwysicaf mae Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae'r wasg yn cyhoeddi tua 60 o lyfrau academaidd bob blwyddyn.