![]() Tor. Logo'r meddalwedd | |
Enghraifft o: | problem gymdeithasol, ffynhonnell risg ![]() |
---|---|
Math | cynnwys y we ![]() |
Rhan o | gwe ddofn, darknet ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 2009 ![]() |
Rhan o'r We Fyd Eang yw'r we dywyll (Saesneg: the dark web), sy'n bodoli ar darknets: rhwydweithiau o droshaenu (darknets: overlay networks) sy'n defnyddio'r Rhyngrwyd ond sydd angen meddalwedd neu ganiatad penodol i gael mynediad.[1][2][3] Trwy'r we dywyll, gall rhwydweithiau cyfrifiadurol preifat gyfathrebu a chynnal busnes yn ddienw heb ddatgelu gwybodaeth am y defnyddiwr, megis lleoliad.[4][5] Mae'r we dywyll yn ffurfio rhan fechan o'r we ddofn, y rhan o'r We nad yw wedi'i mynegeio gan beiriannau chwilio'r we, er weithiau defnyddir y term gwe ddofn ar gam am y we dywyll.[6][7]
Mae'r rhwydi tywyll (darknets) sy'n ffurfio'r we dywyll yn cynnwys rhwydweithiau cymar i gymar bychan, ffrind-i-ffrind, yn ogystal â rhwydweithiau mawr, poblogaidd fel Tor, Freenet, I2P, a Riffle a weithredir gan sefydliadau cyhoeddus ac unigolion.[5] Mae defnyddwyr y we dywyll yn cyfeirio at y we arferol fel Clearnet oherwydd nad yw wedi ei hamgryptio.[8] Mae gwe dywyll Tor neu onionland[9] yn defnyddio'r dechneg o draffig anhysbys-dienw o lwybro nionyn (Saesneg: onion routing) o dan ôl -ddodiad parth lefel uchaf y rhwydwaith .onion.