Gweision neidr tindrom

Gweision neidr tindrom
Gomphidae
Austrogomphus guerini
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Anisoptera
Uwchdeulu: Aeshnoidea
Teulu: Gomphidae

Teulu o bryfaid a elwir yn aml yn Weision neidr tindrom yw'r Gomphidae. Mae'r teulu hwn o Weision neidr o fewn Urdd yr Odonata ac yn cynnwys tua 90 genera (gweler isod) a 900 rhywogaeth. Mae'r enw 'tindrom' (tin / pen ôl) yn cyfeirio at gylchrannau 7-9 o'r abdomen, sydd yn aml, ond nid pob amser, wedi'i chwyddo fel pastwn.

Mae'r gair Lladin (a gwyddonol) Gomphidae yn dod tarddu o'r gair 'gomffws', sef colyn (Saesneg: hinge).


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne