Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan

Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan
Ganwyd1097 Edit this on Wikidata
Aberffraw Edit this on Wikidata
Bu farw1136 Edit this on Wikidata
Castell Cydweli Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
TadGruffudd ap Cynan Edit this on Wikidata
MamAngharad ferch Owain Edit this on Wikidata
PriodGruffudd ap Rhys, Cadwgan ap Bleddyn Edit this on Wikidata
PlantRhys ap Gruffudd, Maredudd ap Gruffudd, Nest ferch Gruffydd ap Rhys, Gwladus ferch Gruffudd, Rhys Fychan ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr, Nn ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr, Owain ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr, Maredudd ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr Mawr Edit this on Wikidata
LlinachLlinach Dinefwr, Llys Aberffraw Edit this on Wikidata

Merch Gruffudd ap Cynan a'i wraig Angharad ferch Owain, chwaer Owain Gwynedd a gwraig Gruffudd ap Rhys o Gaeo, tywysog y Deheubarth, oedd Gwenllian (bu farw 1136). Drwy ei phriodas â Gruffudd ap Rhys o Gaeo a hithau’n aelod o deulu Aberffraw roedd yn cyfuno llinach frenhinol y Deheubarth a Gwynedd. Daeth yn enwog yn hanes Cymru oherwydd ei hangerdd dewr yn erbyn ymosodiad y Normaniaid yn 1136. Lladdwyd hi yn y frwydr a ymladdwyd gerllaw Castell Cydweli ac mae’n enghraifft anghyffredin yn hanes Cymru’r Oesoedd Canol o fenyw yn dangos arweinyddiaeth mewn brwydr filwrol.

Mae’n aml yn cael ei phortreadu mewn dehongliadau celfyddydol ohoni fel arwres ddewr gyda’i chleddyf yn ei llaw neu’n teithio mewn cerbyd i mewn i frwydr, yn debyg i ddelwedd Buddug. Roedd y ddelwedd hon ohoni yn cyd-fynd â’r ymdrech lew a wnaeth i amddiffyn teyrnas y Deheubarth yn 1136.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne