![]() | |
Enghraifft o: | model o gerbyd ![]() |
---|---|
Math | awyren-ofod, llongofod cludo pobl, llong ofod ailddefnyddiol, space shuttle ![]() |
Màs | 74,844 cilogram ![]() |
Gwlad | Unol Daleithiau America ![]() |
Rhan o | Rhaglen Gwenol y Gofod, taith i'r gofod, Gwennol Ofod ![]() |
Perchennog | NASA ![]() |
Yn cynnwys | Enterprise, Columbia, Challenger, Discovery, Atlantis, Endeavour ![]() |
Gweithredwr | NASA ![]() |
Gwneuthurwr | Rockwell International ![]() |
Hyd | 37.24 metr ![]() |
Hyd | 115,263,404 eiliad ![]() |
![]() |
Math o long ofod ydy gwennol y gofod neu wennol ofod sy'n medru dianc o ddisgyrchiant y Ddaear a dychwelyd yn ôl. Fe'i weithredwyd gan NASA rhwng 1981 a 2011 gyda'r gallu i gludo gofodwyr ac offer i gylchdro isel. Fe'i defnyddiwyd i adeiladu yr Orsaf Ofod Rhyngwladol a lansio thelesgôp Hubble.[1] Bathwyd y term Cymraeg, am y gair Saesneg space shuttle, gan Owain Owain.[2]
Mantais y Wennol Ofod o'i chymharu â rocedi lansio cynharach a fyddai yn disgyn i'r ddaear ac felly yn cael eu dinistrio ydy y gellid adennill prif rannau'r Wennol a'u hailddefnyddio. Gellid er enghraifft arbed y cylchynydd neu'r awyren ofod a'r atgyfnerthion roced. Mae nifer o wledydd a sefydliadau, gan gynnwys yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (European Space Agency), Gweriniaeth Pobl Tsieina a Japan wedi cynllunio gwenoliaid gofod, ond yr unig wledydd i lansio roced o'r fath yw'r Unol Daleithiau a Rwsia.