Sylwedd cemegol yw gwenwyn sy'n achosi aflonyddwch i organebau, trwy niweidio iechyd neu ladd pan caiff ei lyncu, ei anadlu, neu ei amsugno.[1] Tocsin yw gwenwyn naturiol, a tocsicant yw gwenwyn a greir gan fodau dynol.
Defnyddir y term "gwenwyn" i ddisgrifio sylwedd sy'n achosi niwed mewn maint cymharol bychan, ond yn dechnegol mae'n amhosib i ddweud bod sylwedd yn gwbl wenwynig neu'n anwenwynig. Mae gan bob sylwedd lefelau gwahanol o wenwyndra, ac yn ôl rhai tocsicolegwyr mae pob sylwedd yn "wenwynig", yn dibynnu ar y dos.[1] Oherwydd hyn, y diffiniad ymarferol o wenwyn yw sylwedd sydd yn peri perygl realistig.
Yn glinigol rhennir gwenwynau yn ddau gategori: gwenwynau sy'n ymateb i driniaethau neu wrthwenwynau, a gwenwynau sydd heb driniaeth benodol. Mae datblygu triniaethau yn erbyn gwenwynau yn tynnu sylw llawer o ymchwil meddygol, ond ychydig yw'r gwrthwenwynau effeithiol sydd ar gael, er bod camau mawr wedi eu cyrraedd mewn maes gwrth-docsinau.[1]
Mae bodau dynol wedi defnyddio gwenwyn ers talwm yn fwriadol i ladd ei gilydd ac i ladd eu hunain. Mae gwenwyno'n anfwriadol yn peri risg iechyd cyhoeddus ar draws y byd.[2] Gall wenwyno'n anfwriadol gynnwys ymosodiad gan anifail gwenwynig megis brathiad neidr neu bigiad sgorpion, gorddos o gyffuriau, neu drychineb ddiwydiannol megis trychineb Bhopal.