Беларуская Народная Рэспубліка Llywodraeth alltud (ers 1918) | |
Arwyddair | Gwerin pob gwlad, unwch! |
---|---|
Math | gwladwriaeth hanesyddol heb ei chydnabod |
Prifddinas | Minsk, Hrodna |
Sefydlwyd | 1918–1919 Cydnabyddiaeth rhannol dan feddiant yr Almaen |
Anthem | Vajacki marš |
Pennaeth llywodraeth | Jazep Varonka, Raman Skirmunt, Jan Sierada, Anton Lutskevich, Vaclau Lastouski, Pyotra Krecheuski, Aliaksandar Ćvikievič |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Belarwseg |
Daearyddiaeth | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Gweinidogion Cyngor y Bobl yng Ngweriniaeth Pobl Belarws |
Corff deddfwriaethol | Rada Gweriniaeth Ddemocrataidd Belarws, Cyngor Goruchaf Gweriniaeth Pobl Belarws, Cyngor Pobl y BNR |
Pennaeth y Llywodraeth | Jazep Varonka, Raman Skirmunt, Jan Sierada, Anton Lutskevich, Vaclau Lastouski, Pyotra Krecheuski, Aliaksandar Ćvikievič |
Gweriniaeth Pobl Belarws (Belarwseg: Белару́ская Наро́дная Рэспу́бліка; Belaruskaja Narodnaja Respublika (BNR) neu Gweriniaeth Genedlaethol Belarws neu hefyd Gweriniaeth Ddemocrataidd Belarws oedd y wladwriaeth Belarwsaidd annibynnol gyntaf. Sefydlwyd y weriniaeth ym 1918 ac fe'i llywodraethwyd gan Rada y BNR nes iddi gael ei diorseddu gan Weriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Belarws (BSSR) ym 1919.[1] Mewn rhai dogfennau arddelwyd y term Gweriniaeth Ddemocrataidd Rwthenia Gwyn.[2] Mae'r Rada yn dal yn weithredol heddiw ac mae'n un o'r llywodraethau alltud hynaf yn y byd a gelwir hi'n Rada Gweriniaeth Ddemocrataidd Belarws.