Gwernyfed

Gwernyfed
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,049, 985 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,168.72 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.02465°N 3.17803°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000280 Edit this on Wikidata
Cod postLD3 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/au y DUDavid Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol)
Map

Cymuned ym Mhowys, Cymru, yw Gwernyfed. Saif ar lan ddeheuol Afon Gwy, gyferbyn a'r Clas-ar-Wy, ac yn ymestyn i gyfeiriad Talgarth.

Yn dilyn concwest Teyrnas Brycheiniog gan y Normaniaid, daeth yr ardal o fewn is-arglwyddiaeth Y Clas ar Wy, yn gorwedd rhwng Y Gelli a Thalgarth. Rhoddwyd y daliad i Peter Gunter gan Bernard de Neufmarché.

Saif pentrefi Aberllynfi (Three Cocks yn Saesneg) a Felindre o fewn y gymuned. Mae plasdy Hen Wernyfed yn dyddio o'r 15g ond wedi ei ail-adeiladu yn y cyfnod Jacobeaidd; mae'n awr yn westy. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 995.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol).[2]


  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-31.
  2. Gwefan Senedd y DU

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne