Gwidigada

Cwmwd canoloesol yn gorwedd yn y Cantref Mawr yn Ystrad Tywi, de-orllewin Cymru, oedd Gwidigada (sillafiad amgen: Gwdigada; weithiau hefyd Widigada). Roedd yn rhan o deyrnas Deheubarth ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o Sir Gaerfyrddin.

Gorweddai cwmwd Gwidigada yn rhan dde-orllewinol y Cantref Mawr, ar y ffin rhwng y cantref hwnnw â Chantref Gwarthaf. Ffiniai â chymydau Mabudrud, a Chatheiniog yn y Cantref Mawr, â chwmwd Cydweli i'r de, ac â chymydau Derllys ac Elfed yng nghantref Gwarthaf, i'r gorllewin.

Gorweddai rhwng Afon Tywi ac Afon Gwili.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne