Mae gwirebau tebygolrwydd yn rhan hanfodol o ddamcaniaeth tebygolrwydd Andrey Kolmogorov, ac fe'i gelwir yn aml yn wirebau Kolmogorov. Bodlonir y gwirebau hyn, fel arfer, pan ddiffinir tebygolrwydd P rhyw ddigwyddiad E, a ddynodir gan .
Gellir crynhoi'r gwirebau hyn fel a ganlyn: Gadewch i (Ω, F, P) fod yn fesuriad o ofod, gyda P(Ω) = 1. Yna, mae (Ω, F, P) yn ofod tebygolrwydd, gyda gofod y sampl (neu'r 'gofod sampl') Ω, gofod y digwyddiad F a mesuriad y tebygolrwydd yn P.[1]
Dull arall o ffurfioli'r tebygolrwydd yw damcaniaeth Fox, a dyma'r dull a ddewisir gan gefnogwyr y meddylfryd Bayes.[2]