Gwladys ferch Dafydd Gam | |
---|---|
Ganwyd | 1443 ![]() |
Bu farw | 15 g ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Tad | Dafydd Gam ![]() |
Mam | Gwenllian ferch Gwilym ap Hywel Grach ap Gwilym ap Hywel ![]() |
Priod | Rhosier Fychan, William ap Thomas ![]() |
Plant | Richard Herbert, William Herbert, Roger Fychan, Tre-tŵr, Watkyn Vaughan, Thomas ap Rhosier Fychan, Elizabeth Herbert, Margred Herbert, Elizabeth Vaughan ![]() |
Un o uchelwyr yr Oesoedd Canol oedd Gwladys ferch Dafydd Gam (bu farw 1454) a merch Dafydd ap Llewelyn ap Hywel (a adnabyddir fel 'Dafydd Gam').[1]
Ei llysenw oedd Seren y Fenni ac fe'i cymharwyd yn y gorffennol gyda'r Frenhines Marchia am ei dylanwad a'i didwylledd.[2]
Oherwydd i'w thad ochri gyda'r Saeson yn erbyn Owain Glyn Dŵr, llosgwyd eu cartref ac erlidiwyd y teulu i Loegr, a chawasant gryn groeso gan frenin Lloegr sef Harri IV a [3][4] gweithiodd Gwladys fel morwyn i'r frenhines Mary de Bohun (c. 1368–1394), ac yna i Joan of Navarre, (c. 1370–1437), ei ail-wraig.[5][6]
Priododd ddwywaith, y tro cyntaf i Syr Roger Vaughan a fu farw gyda'i thad ym Mrwydr Agincourt a'r ail dro i William ap Thomas o Gastell Rhaglan.
Bu farw yn 1454 ac fe'i chladdwyd ym Mhriordy'r Fenni, ble roedd gyda William ei gŵr yn noddwyr. Yno, yn Eglwys y Santes Fair, ceir cofeb alabaster i'r ddau. Wedi ei marwolaeth ysgrifennodd Lewys Glyn Cothi marwnad iddi sy’n cychwyn efo’r geiriau: