Math | gwlff, môr canoldir |
---|---|
Enwyd ar ôl | Mecsico |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | American Mediterranean Sea |
Gwlad | Mecsico, Unol Daleithiau America, Ciwba |
Arwynebedd | 1,550,000 km² |
Uwch y môr | 0 metr |
Cyfesurynnau | 25°N 90°W |
Gwlff o Gefnfor Iwerydd yng Ngogledd America yw Gwlff Mecsico (Saesneg: Gulf of Mexico, Sbaeneg: Golfo de Mecsico). Y gwledydd sy'n ffinio ar y gwlff yw Mecsico (Yucatán, Campeche, Veracruz, Tamaulipas), yr Unol Daleithiau (o'r dwyrain i'r gorllewin: Florida, Alabama, Louisiana, Mississippi, Texas) a Ciwba. Trwy Gulfor Yucatan mae'r Gwlff yn cysylltu a Môr y Caribî, a thrwy Gulfor Florida mae'n cysylltu a'r Iwerydd.
Y prif afonydd sy'n llifo i'r gwlff yw afon Mississippi, y Rio Grande a'r Río Grijalva. Porthladdoedd pwysig yw Tampa, New Orleans, Houston, Tampico, Veracruz a La Habana.