Enghraifft o: | gwobr llawn eironi ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1991 ![]() |
Enw brodorol | Ig Nobel Prize ![]() |
Gwefan | https://www.improbable.com/ig/winners/ ![]() |
![]() |
Gwobr flynyddol sy’n parodïo’r Wobr Nobel yw’r Wobr Ig Nobel. Cyflwynir deg ohonynt pob Hydref i ddathlu adroddiadau gorchestion sy’n gyntaf yn codi gwên ond yna sy’n peri dyn feddwl. Ei diben yw hybu diddordeb y cyhoedd mewn Gwyddoniaeth, Meddygaeth a Thechnoleg.
Cynhelir y seremoni gwobrwyo, mewn awyrgylch o ddifyrrwch rhwysgfawr yn Theatr Sanders Prifysgol Harvard. Enillwyr gwobrau Nobel go iawn sy’n cyflwyno’r gwobrau ar y llwyfan. Dilynir y seremoni gan gyflwyniadau cyhoeddus gan yr enillwyr yn Athrofa Dechnoleg Massachusetts (MIT). Diwedda pob seremoni gyda’r cyfarchiad “ Os na bu ichi ennill gwobr eleni - ac yn arbennig os ichwi wneud - gwell lwc y flwyddyn nesaf !”
Trefnir y digwyddiadau, a gychwynnwyd yn 1991, gan y cylchgrawn ysgafn gwyddonol The Annals of Improbable Research (AIR)[1]. Ei golygydd, Marc Abrahams, bu’r meistr seremonïau ers hynny. Mae nifer o’r categorïau yn dilyn patrwm y Wobr Nobel; Ffiseg, Cemeg, Ffisioleg/meddygaeth, Llenyddiaeth a Heddwch, ond mae hefyd categorïau amgen i hwyluso’r coegni[2].
Er nad ydynt yn ddim byd tebyg i’r Gwobrau Nobel, ceir gryn ddiddordeb yn y Gwobrau Ig Nobel ymhlith gwyddonwyr. Fe’i cyhoeddir pob blwyddyn ychydig wythnosau cyn y Gwobrau Nobel.
Yn 2000 enillodd Andre Geim wobr Ig Nobel am bapur ar hedfan broga byw mewn maes magnetig. Yn 2010 gwobrwywyd yr un Andre Geim a’r Wobr Nobel am ei waith ar graffin[3]. (Hyd yma, fe yw’r unig un i ennill “y dwbl” hwn.)
O bryd i’w gilydd moeswersi yw’r nod, megis gwobr Cemeg 2016 i gwmni Vokswagen am ddatrys problem llygredd aer trwy leihau allyriadau yn ystod profion[4].
Yn ogystal â'r cylchgrawn mae gan Improbable Research wefan[5] sy'n hysbysu erthyglau a digwyddiadau haeddiannol.