![]() | |
Enghraifft o: | international conflict, gwrthdaro arfog ![]() |
---|---|
Rhan o | Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd ![]() |
Dechreuwyd | 20 g ![]() |
Lleoliad | Lefant ![]() |
Yn cynnwys | Hezbollah–Israel conflict, list of projectile attacks from Lebanon on Israel and the Golan Heights ![]() |
![]() |
Mae'r Gwrthdaro Israel-Libanus yn parhau ers dros hanner canrif ac yn rhan o'r gwrthdaro ehangach hwnnw rhwng Israel a'i chymdogion, sef gwrthdaro Arab-Israelaidd. Daeth byddinoedd y ddwy wlad ben-ben a'i gilydd ar sawl achlysur, gan gynnwys Rhyfel Libanus 2006 pan laddwyd dros fil o bobl Libanus gan Lu Awyr Israel. Ar adegau, mae grwpiau militaraidd mewnol hefyd yn rhan o'r gwrthdaro.
Recriwtiodd y PLO (sef y 'Palestine Liberation Organization') o deuluoedd y ffoaduriaid a ddihangodd ar Al Nakba, neu Ffoedigaeth y Palesteniaid (Arabeg: الهجرة الفلسطينية, al-Hijra al-Filasteeniya) pan hawliodd Israel eu tir yn 1948. [1]
Erbyn 1968 roedd ymosodiadau gan Israel a gan y PLO ar draws y ffiniau, a hynny gan darfu ar sofraniaeth Libanus.[2]
Ar ôl diarddel arweinyddiaeth y PLO a'r grŵp Fatah o Iorddonen am greu gwrthryfel, daethant i mewn i Libanus a chynyddodd yr ymosodiadau dros ffiniau'r ddwy wlad. Cafwyd gwrthryfel yn Libanus rhwng 1975 ac 1990.[3]
Lansiodd Israel ymgyrch o'r enw "Operation Litani" gan ymosod o ddifri ar Libanus yn 1978; ond methodd hyn â lleihau effeithiolrwydd ymosodiadau'r Palesteiniaid. Ymosododd Israel eto ar Lebanon yn 1982 gan daflu arweinyddion y PLO allan o'r wlad. Yn 1985 galwodd mudiad a oedd yn cael ei ariannu gan Iran, sef Hezbollah ar Israel i dynnu allan o Libanus[4] Byddin De Libanus a'r hezbollah oedd yn ymladd gyda byddin Israel, a gwrthododd y ddau i ddiarfogi. Yn 2000, er i Fyddin De Libanus ddatgymalu, dychwelodd byddin Israel yn ôl at y ffin.[5]
Am y chwe mlynedd nesaf, bu i Hezbollah barhau gyda'u hymosodiadau ar Israel dros y ffin gan gychwyn brwydro dros ryddid carcharorion Libanaidd yn Israel. er mwyn cyfnewid carcharorion, buont hefyd yn llwyddiannus yn cipio milwyr Israel.[6]