Model gwrthiant mewnol generadur foltedd nad yw'n ddelfrydol | |
Math | gwrthiant trydanol |
---|
Mae batri wedi’i gysylltu mewn cyfres ar gylched y mae’n darparu egni ar ei chyfer. Mae maint y cerrynt yn y batri yr un fath ag sydd yn y gylched allanol. Oherwydd y cerrynt yn y batri, mae egni yn cael ei afradloni oddi mewn iddo. Gallwn ddweud felly, ar gyfer unrhyw gyfnod penodol o amser:-
Cyfanswm yr egni sy’n cael ei drosglwyddo gan y batri = Egni sy’n gael ei drosglwyddo i gylched allanol + Egni sy’n cael ei afradlono gan y batri.