Math | gwrthryfel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon |
Lleoliad | Dulyn, Swydd Meath, Contae na Gaillimhe, Corc |
Gwlad | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Cyfnod | 29 Ebrill 1916 |
Roedd Gwrthryfel y Pasg (Gwyddeleg: Éirí Amach na Cásca) yn wrthryfel gan genedlaetholwyr Gwyddelig yn ystod wythnos y Pasg yn 1916.
Gwrthryfel y Pasg oedd y gwrthryfel mwyaf yn hanes Iwerddon ers Gwrthryfel Gwyddelig 1798. Roedd y gwrthryfel wedi ei gynllunio yn bennaf gan yr IRB (Irish Republican Brotherhood yn Saesneg, neu Bráithreachas na Poblachta yn Wyddeleg). Parhaodd o ddydd Llun y Pasg 24 Ebrill hyd 30 Ebrill, 1916. Y saith aelod o'r pwyllgor fu'n ei gynllunio oedd Tomás Ó Cléirigh (Tom Clarke, yn Saesneg) Pádraig Mac Piarais (Padraig Pearse), Séamus Ó Conghaile (James Connolly), Éamonn Ceannt, Seosamh Pluncéid (Joseph Plunkett,) Seán Mac Diarmada a Tomás Mac Donnchadha (Thomas MacDonagh). Roedd y rhan fwyaf o'r rhai a gymerodd ran yn y gwrthryfel yn aelodau o'r Gwirfoddolwyr Gwyddelig (Óglaigh na hÉireann - Irish Volunteers), dan arweiniad Pádraig Mac Piarais, ond ymunodd aelodau o Arm Cathartha na hÉireann (Irish Citizen Army) gyda nhw dan arweiniad Séamus Ó Conghaile (James Connolly). Yn ninas Dulyn roedd y rhan fwyaf o'r ymladd, er bod rhywfaint o ymladd mewn rhannau eraill o Iwerddon. Meddiannod y gwrthryfelwyr nifer o adeiladau o gwmpas canol Dulyn, gyda'u pencadlys yn Swyddfa'r Bost. Wedi chwe diwrnod o ymladd, ildiodd y gwrthryfelwyr i'r fyddin Brydeinig. Lladdwyd 64 o'r gwrthryfelwyr yn y brwydro, tra lladdwyd 140 ac anafwyd 318 o fyddin Prydain. Lladdwyd 17 aelod o'r heddlu a thua 220 o bobl eraill.
Rhoddwyd yr arweinwyr ar eu prawf gan y fyddin, a dienyddiwyd 16 ohonynt yn ystod hanner cyntaf mis Mai, yn eu plith Séamus Ó Conghaile (James Connolly), oedd wedi ei anafu mor ddrwg fel na allai sefyll ac ac fe'i saethwyd yn eistedd mewn cadair. Ym mis Awst, crogwyd Ruairí Mac Easmainn (Roger Casement), a aethai i'r Almaen i geisio cefnogaeth i'r gwrthryfel ac a ddychwelodd i Iwerddon mewn llong danfor ychydig ddyddiau cyn dechrau'r gwrthryfel.
Gyrrwyd y gweddill o'r gwrthryfelwyr i wersyll carchar yn Fron-goch ger Y Bala. Lai na thair blynedd yn ddiweddarach, roedd llawer o'r rhai a gymerodd ran yn y gwrthryfel ymysg y rhai a sefydlodd y Dáil Cyntaf yn 1919, a arweiniodd at sefydlu Gweriniaeth Iwerddon. Yn eu plith roedd Éamon de Valera a Mícheál Ó Coileáin (Michael Collins).