Gwyddoniaeth

Gwyddoniaeth
Enghraifft o:disgyblaeth academaidd, Wissenschaft Edit this on Wikidata
Mathsystem gwybodaeth Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebnon-science, ffugwyddoniaeth, antiscience Edit this on Wikidata
Rhan oGwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg Edit this on Wikidata
Yn cynnwysgolwg fyd-eang wyddonol, gwyddoniaeth naturiol, gwyddorau cymdeithas, gwyddoniaeth ffurfiol, experimental science, gwyddoniaeth ryngddisgyblaethol, scientific knowledge, ymchwil, llenyddiaeth am wyddoniaeth Edit this on Wikidata
Cynnyrchgwybodaeth Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae 'Gwyddonydd' yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Am y cylchgrawn Cymraeg gweler Y Gwyddonydd.
Galileo: tad gwyddoniaeth fodern yn ôl llawer.
Gwyddonydd wrth ei gwaith

System o wybodaeth a dealltwriaeth o'r byd ffisegol, sy'n defnyddio dulliau a ellir eu gwirio yw gwyddoniaeth. Yn benodol, mae'n cyfeirio at system o ganfod gwybodaeth sy'n seiliedig ar empiriaeth, arbrofi, a methodolegol rheysmegol ac at y corff o wybodaeth mae pobl wedi'u casglu trwy ymchwil o'r fath. Athroniaeth gwyddoniaeth yw astudiaeth haniaethol o natur a chyfiawnhâd gwybodaeth wyddonol.

Mynna gwyddonwyr bod yn rhaid i ymchwil wyddonol ufuddhau i'r dull gwyddonol, gan egluro digwyddiadau yn nhermau achosion naturiol, a gwrthod syniadau goruwchnaturiol na ellir ei brofi. Hynny yw, nid lle gwyddoniaeth ydy gofyn 'Oes na Dduw?'

Dosberthir meysydd gwyddoniaeth yn ddau brif grŵp: gwyddorau naturiol, a gwyddorau cymdeithasol. Mae Mathemateg yn arf hanfodol i'r gwyddonydd, ac mae Mathemateg yn debyg (ac yn rhan o) Wyddoniaeth gan ei bod yn astudiaeth drwyadl a rhesymegol o bynciau megis rhif, maint, strwythur, gofod, a newid. Fodd bynnag, ni ellir ystyried Mathemateg yn Wyddoniaeth bur, gan fod y dull mathemategol yn gwbl wahanol i'r dull gwyddonol.

Dros y canrifoedd cafwyd llawer o Gymry a fu'n flaenllaw iawn y myd Gwyddoniaeth gan gynnwys dau enillydd y wobr Nobel: Brian David Josephson (g. 1940) a Bertrand Russell, y biolegydd Alfred Russel Wallace a'r economegydd Clive W. J. Granger (g. 1934). Robert Recorde (1510–1558) o Ddinbych-y-pysgod a greodd symbol yr hafaliad (=) ac William Jones (1675–1749) oedd y cyntaf i ddefnyddio'r symbol π (/p/) i gynrychioli cymhareb y cylchedd i'r diamedr yn 1796.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne