Gwyddoniaeth bur

Cangen o wyddoniaeth sy'n disgrifio'r gwrthrychau a'r grymoedd mwyaf gwaelodol a sylfaenol ynghyd â'r berthynas rhyngddynt a'r deddfau sy'n eu llywodraethu fel y gellir dweud fod pob ffenomen naturiol yn deillio ohonynt yw gwyddoniaeth bur neu wyddoniaeth waelodol (Saesneg: fundamental science).

Mewn gwirionedd, casgliad o wybodaeth ydyw (yn wahanol felly i wyddoniaeth gymhwysol neu ymarferol. Daw'r holl wybodaeth allan o arbrofion gwyddonol sydd yn dod i ryw wirionedd na ellir mo'i wrthbrofi. Er enghraifft, mewn meddygaeth y wyddoniaeth bur yw'r theori a'r ymchwil a wneir i anatomi a histoleg. Dyma ydy'r gwaith pre-clinic. Daw'r wyddoniaeth ymarferol wedyn.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne