Roedd y Gwylliaid Llwyni (en: bushrangers) yn lladron oedd yn byw ar dir prysglwyn Awstralia (y Bwsh). Cafodd dros 2,000 o bobl eu disgrifio fel bushrangers gan y wasg, roedd y rhan fwyaf ohonynt yn lladron a throseddwyr cyffredin. Daeth ychydig o wylliaid llwyni yn enwog, gan cael eu cyfrif fel arwyr llên gwerin eu gwlad[1]. Maent yn rhan o hanes hir o droi dihirod yn arwyr, megis yn hanesion Robin Hood a Dick Turpin yn Lloegr, Jesse James a Billy the Kid yn yr Unol Daleithiau, neu Gwylliaid Cochion Mawddwy a Twm Siôn Cati yng Nghymru.