Gwyn Alf Williams | |
---|---|
Ganwyd | Gwyn Alfred Williams 30 Medi 1925 Dowlais |
Bu farw | 16 Tachwedd 1995 Dre-fach Felindre |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd |
Cyflogwr |
Hanesydd o Gymru oedd Gwyn Alf Williams (30 Medi 1925 – 16 Tachwedd 1995) a gafodd ei eni yn Lower Row, Pen-y-Wern, Dowlais.[1] Roedd yn fab i Thomas John (1892–1971) a Gwladys Morgan (1896–1983): y ddau yn athrawon. Cafodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa a hefyd Gwernllwyn, capel yr Annibynwyr, lle y dysgodd cryn dipyn o Gymraeg a ble y derbyniodd gryn anniddigrwydd a gwrthwynebiad i'w syniadau Marcsaidd.
Er iddo gael ei dderbyn, drwy ysgoloriaeth i Brifysgol Aberystwyth, fe'i gwysiwyd i ymuno â'r fyddin. Yna treuliodd flwyddyn yn adeiladu ffordd rhwng Zagreb a Belgrade yn Iwgoslafia, oherwydd ei ddaliadau comiwnyddol; ei arwr, bryd hynny, oedd y gwladweinydd Josip Broz Tito.[2] Wedi dychwelyd i Gymru ar ôl y rhyfel derbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn hanes yn Aberystwyth a gradd feistr ddwy flynedd wedyn.Ym 1963 aeth i ddarlithio hanes ym Mhrifysgol Efrog a daeth yn Athro ddwy flynedd wedyn. Ym 1974 symudodd i Brifysgol Caerdydd.
Daeth yn enwog am ei ran yn y gyfres deledu ar hanes Cymru, The Dragon Has Two Tongues, fel gwrthwynebydd i'r hanesydd Wynford Vaughan-Thomas.[3]
Ar 12fed o Dachwedd 1979 traddododd ddarlith radio blynyddol BBC Cymry ar y testun When was Wales?.