Gwyn ap Nudd | |
---|---|
Prif le cwlt | Cymru |
Rhagflaenydd | Arawn |
Preswylfa | Annwn[1] |
Brwydrau | Cad Goddeu[1] |
Anifeiliaid | Cŵn Annwn, y tarw[1] |
Rhyw | Gwryw |
Gwyliau | Cysylltiadau â Chalan Mai pan fydd Gwyn yn brwydro Gwythyr ap Greidawl am law Creiddylad[1] |
Achyddiaeth | |
Rhieni | Lludd Llaw Ereint (Nudd) |
Siblingiaid | Edern ap Nudd[1] |
Consort | Creiddylad, drwy rym |
Cymeriad ym mytholeg a llên gwerin Cymru a gysylltir â'r Arallfyd a'r Tylwyth Teg yw Gwyn ap Nudd.
Yn y chwedl Cymraeg Canol gynnar Culhwch ac Olwen, mae Gwyn yn cipio'r forwyn Creiddylad, ferch Lludd Llaw Ereint ar ôl iddi redeg i ffwrdd gyda Gwythyr ap Greidawl, ymgeisydd Gwyn am ei chariad. Mae Gwyn a Gwythyr yn ymladd ei gilydd ar Galan Mai, brwydr symbolaidd efallai sy'n cynrychioli'r ymryson oesol rhwng y gaeaf a'r haf gyda Creiddylad yn cynrychioli y dduwies Natur. Yn y chwedl mae Gwyn yn un o'r rhai sy'n cynorthwyo yr arwr Culhwch i hela'r Twrch Trwyth.
Ceir cyfres o englynion cynnar yn Llyfr Du Caerfyrddin ar ffurf deialog rhwng Gwyn ap Nudd a Gwyddno Garanhir, sy'n portreadu Gwyn fel rhyfelwr nerthol heb arlliw o fytholeg o'i gwmpas. Rhestrir nifer o safleoedd brwydrau yn y gerdd, llawer ohonyn nhw yn yr Hen Ogledd.
Cyfeiria Dafydd ap Gwilym (14g) sawl gwaith at Wyn ap Nudd. Mae'n cyfeirio at y llwynog fel "edn i Wyn ap Nudd", er enghraifft, ac mae'r niwl yn "tyrau uchel eu helynt, / tylwyth Gwyn, talaith y gwynt".[2]
Mewn chwedlau llên gwerin diweddarach mae Gwyn yn cymryd lle Arawn fel brenin Annwn. Yn y cyswllt hynny mae'n arwain Cŵn Annwn ar eu helfa wyllt trwy'r nos.
Gwyn ap Nudd yw brenin y Tylwyth Teg yn llên gwerin Cymru, a cheir sawl chwedl amdano. Mae un chwedl yn adrodd sut y daeth Sant Collen i lys Gwyn ap Nudd ym mynyddoedd Y Berwyn a'i orchfygu a dangos mai hud a lledrith yn unig oedd ei balas gwych. Yn y chwedl mae Gwyn a'i bobl yn gwisgo dillad lliw coch a glas.
Mae gwyn yn gytras â'r gair Gwyddeleg fionn ("gwyn, teg"). Ymddengys fod cysylltiad rhwng Gwyn ap Nudd a'r arwr Gwyddelig chwedlonol Fionn mac Cumhaill, oedd yn ŵyr i Nuada. Mae enw Nudd, tad Gwyn, yn ffurf Gymreig ar Nuada ac mae'r ddau yn gysylltiedig â'r duw Celtaidd Nodens.
Mae rhai ysgolheigion yn cynnig fod enw Y Berwyn yn deillio o'r ffurf Gymraeg Cynnar bre wyn "Allt Gwyn" (gweler hefyd Caer Drewyn, ger Corwen). Cysylltir Gwyn â llynnoedd sy'n gartref i bysgod (cf. Fionn a'r eog) a thylluanod.
Ceir cerdd adnabyddus am Gwyn ap Nudd gan Howell Elvet Lewis (Elfed).
Yn ôl llawysgrif Ladin o'r 14eg ganrif yn erbyn dewiniaeth, byddai "dynion hysbys" Cymreig yn ailadrodd y canlynol:[3]
Ad regem Eumenidium, |
Frenin y Tylwyth Teg, |
Defnyddir y gair Lladin Eumenidium, sy'n gallu cael ei gyfieithu fel "y Rhai Cyfeillgar"[4] a bod yn air teg i olygu y tylwyth teg, a brenin y tylwyth teg yw Gwyn ap Nudd, felly drwy resymeg gellir dweud mai Gwyn ap Nudd yw "Eumenidium."