![]() | |
Enghraifft o: | first-rate, museum ship, preserved watercraft ![]() |
---|---|
Lleoliad | Portsmouth ![]() |
![]() | |
Gweithredwr | y Llynges Frenhinol ![]() |
Gwneuthurwr | Chatham Dockyard ![]() |
Rhanbarth | Portsmouth ![]() |
Hyd | 69.34 metr ![]() |
Gwefan | http://www.hms-victory.com/ ![]() |
![]() |
Llong ryfel â 104 gwn oedd HMS Victory a adeiladwyd rhwng 1759 a 1765. Cafodd ei hadeiladu ym Chatham, a'i lansio ar 7 Mai 1765.[1] Mae'n enwog am fod yn brif long Arglwydd Nelson yn ystod Brwydr Trafalgar yn 1805.
Mae'r llong yn 227.5 troedfedd o ran hyd, a 52tr o led ac yn pwyso 2,142 tunnell BM.[1] Yn 1922 fe'i symudwyd i ddoc sych yn Portsmouth, Lloegr i'w gwarchod a'i chadw fel amgueddfa. Hi yw'r llong hynaf sy'n parhau i fod mewn comisiwn yn y Llynges Frenhinol.