Dechreuodd hanes Awstralia gael ei gofnodi pan ganfyddodd fforwyr o'r Iseldiroedd megis Willem Janszoon (c. 1570–1630) y cyfandir "newydd" a elwir heddiw yn Awstralia yn yr 17g. Ond mae hanes anysgrifenedig Awstralia yn ymestyn yn ôl dros filoedd o flynyddoedd cyn i'r Ewropeaid gyrraedd. Mae dehongliad hanes Awstralia yn bwnc cryn ddadl, yn arbennig ynglŷn â'i gwladychiad gan Brydain Fawr a'r driniaeth a gafodd yr Awstraliaid Brodorol gan y gwladychwyr gwyn.