O amgylch y Ffendiroedd yn Swydd Gaergrawnt mae olion o lwybrau ac aneddiadau o Oes Newydd y Cerrig. Yn yr oesoedd cynhanesyddol, roedd y corsydd a'r gwastatiroedd llifwaddodol hyn yn gorchuddio'r rhan fwyaf o ogledd ddwyrain Swydd Gaergrawnt, a rhannau o Norfolk a Swydd Lincoln. Ger Peterborough mae Flag Fen, safle un o'r aneddiadau hynaf ym Mhrydain sy'n dyddio o ryw 3500 mlynedd yn ôl, yn ystod Oes yr Efydd. Yn Isleham darganfuwyd un o'r celciau mwyaf o wrthrychau efydd, mwy na 6500 o ddarnau, yn Lloegr.[1]
Yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain, trigasant y rhan fwyaf o boblogaeth yr ardal yn nyffryn Afon Cam. Mae'n debyg taw'r Rhufeiniaid oedd y rhai i gychwyn ar y gwaith o ddraenio'r Ffendiroedd. Symudodd yr Eingl-Sacsoniaid i'r ardal yn y 5g, ac yn yr Oesoedd Canol Cynnar saif ar gyrion y Ddaenfro a brwydrodd y Daniaid a'r Sacsoniaid drosti. Enw'r ardal yn Llyfr Dydd y Farn yw Grentebrigescire, sy'n cyfeirio at Afon Granta, un o lednentydd Afon Cam. Gweinyddid Swydd Gaergawnt a Swydd Huntingdon gan yr un siryf yn ystod yr Oesoedd Canol. Sefydlwyd Prifysgol Caergrawnt yn y 13g. Cyflawnwyd draenio'r Ffendiroedd yn yr 17g, gan greu tiroedd âr a phorfeydd newydd.
Catrawd Swydd Gaergrawnt oedd uned y sir yn y Fyddin Brydeinig, a chafodd ei ffurfio'n gyntaf yn 1860 fel corffluoedd gwirfoddol o reifflwyr. Yn sgil ad-drefnu'r Fyddin gan Hugh Childers yn 1881, daeth yn un o fataliynau gwirfoddol Catrawd Suffolk. Daeth yn rhan o'r Llu Tiriogaethol yn 1908, ac yn gatrawd ar wahân yn 1909. Ymhlith anrhydeddau brwydrau'r gatrawd oedd Ail Ryfel y Boer, Ail Frwydr Ypres, Brwydr Passchendaele, a Brwydrau'r Somme (1916 a 1918) yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a Brwydr Singapore yn yr Ail Ryfel Byd. Lliwiau'r gatrawd oedd glas Caergrawnt a du. Adeiladwyd nifer o feysydd awyr yng ngwastatiroedd Swydd Gaergrawnt ar gyfer awyrennau bomio ac awyrennau ymladd yr Awyrlu Brenhinol ac Awyrlu Byddin yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.