![]() | |
Enghraifft o: | hanes gwlad neu wladwriaeth ![]() |
---|---|
Math | Hanes Ewrop ![]() |
Rhan o | hanes yr Iseldiroedd ![]() |
Gwladwriaeth | Yr Iseldiroedd ![]() |
![]() |
Cyfaneddwyd tiriogaeth presennol yr Iseldiroedd yn Hen Oes y Cerrig. Mae'r oes hanesyddol yn dechrau yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rhufeinig, gan gynhwyswyd y rhannau o'r wlad i'r de o afon Rhein yn nhalaith Rufeinig Gallia Belgica, ac yn ddiweddarach Germania Inferior. Cyfaneddid y wlad ar y pryd gan amryw o lwythi Germanaidd, a chyfaneddid y de gan y Galiaid, a gyfunodd gyda newydd-ddyfodiaid yn perthyn i lwythau Germanaidd yn ystod Cyfnod yr Ymfudo. Ymfudodd Ffranciaid Saliaidd i Âl o'r ardal yma, gan sefydlu llinach pwerus y Merofingiaid erbyn y 5g.