Hanes Asia

Cysylltodd yr Heol Sidan[1] nifer o wareiddiadau ledled Asia
Asia yn 1200 CE, ychydig cyn yr Ymerodraeth Mongol

Gellir ystyried hanes Asia fel casgliad hanesyddol o nifer o ardaloedd arfordirol unigryw, megis Dwyrain Asia, De Asia a'r Dwyrain Canol a oedd yn cael eu cysylltu gan baith eang mewndirol Ewrasiaidd. Roedd cyrion arfordir Asia yn gartref i rai o wareiddiadau cynharaf y byd, gyda phob un o'r dair ardal yn datblygu gwareiddiadau cynnar o amgylch dyffrynoedd ffrwythlon ger afonydd. Roedd y dyffrynoedd hyn yn ffrwythlon am fod y pridd yno yn cynnwys llawer o opiwm. Gwelwyd sawl tebygrwydd rhwng gwareiddiadau ym Mesopotamia, Dyffryn Indus a Tsieina ac chredir eu bod yn rhannu technoleg a syniadau ymysg ei gilydd megis mathemateg a'r olwyn. Mae'n bur debygol fod elfennau eraill fel ysgrifennu wedi datblygu ymhob ardal. Datblygodd dinasoedd, taleithiau ac ymerodraethau yn yr iseldiroedd hyn.

Bu nomadiaid yn byw ar ardal y paith am gryn o dipyn o amser cyn hyn, ac o'r diffeithdir hyn gallent gyrraedd pob ardal yng nghyfandir Asia. Gwelwyd yr enghraifft gynharaf a wyddir amdano o symud allan o'r diffeithdir hwn gan yr Indo-Ewropeiaid a ledaenodd eu hieithoedd i'r Dwyrain Canol, India ac, yn achos Tochareg, i ffiniau Tsieina. Roedd yn amhosib mynd i ran ogleddol y cyfandir, a oedd yn cynnwys rhannau helaeth o Siberia, oherwydd y fforestydd trwchus a'r twndra. Prin oedd y boblogaeth yn yr ardaloedd hyn.

Cadwyd y canol a'r cyrion ar wahan gan fynyddoedd ac anialdir. Ffurfiai'r Cawcasws, yr Himalaya, Anialwch Karakum ac Anialwch Gobi rwystrau na fyddai marchogion yn medru croesi'n hawdd. Tra bod trigolion y dinasoedd yn fwy datblygedig o safbwynt technolegol a diwylliannol, ni allent wneud llawer o safbwynt milwrol i amddiffyn eu hunain rhag marchogion y paith. Fodd bynnag, nid oedd digon o ardaloedd glaswelltog yn yr iseldiroedd i gynnal byddin mawr o farchogion. O ganlyniad, trechodd y nomadiaid daleithiau yn Tsieina, yr India a'r Dwyrain Canol ac fe'u gorfodwyd i addasu i gymdeithasau lleol.

Map o Asia, 1892
  1. Teithwyr yr Heol Sidan Adalwyd ar 20-05-2009

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne