Enghraifft o: | gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Iaith | Cymraeg, Lladin ![]() |
Prif bwnc | Gruffudd ap Cynan ![]() |
Yn Hanes Gruffudd ap Cynan ceir bywgraffiad Gruffudd ap Cynan, brenin Gwynedd ar ddechrau'r 12g. Ceir dau destun, un yn Gymraeg a'r llall yn Lladin. Mae Historia Gruffud vab Kenan yn drosiad Cymraeg Canol o'r fuchedd (bywgraffiad) Ladin wreiddiol, sef Vita Griffini Filii Conani. Mae Hanes Gruffudd ap Cynan yn unigryw yn hanes llenyddiaeth Gymraeg am ei bod yr unig fuchedd Gymraeg Canol sy'n adrodd hanes gŵr lleyg (Bucheddau'r Saint yw'r bucheddau eraill).