Hannibal Mago | |
---|---|
Ganwyd | 471 CC Carthago |
Bu farw | 406 CC o clefyd heintus Acragas |
Dinasyddiaeth | Carthago |
Galwedigaeth | arweinydd milwrol, gwleidydd |
Swydd | teyrn Carthago |
Tad | Gisgó |
Llinach | Magonids |
Cadfridog a gwladweinydd Carthaginaidd oedd Hannibal Mago (tua 471 CC – 406 CC).
Roedd yn shofet (barnwr) Carthago yn 410 CC. Yn 409 CC gorchmynnodd byddin Carthaginaidd a aeth i Sisili mewn ymateb i gais gan ddinas Segesta. Ym Mrwydr Selinus cipiodd ddinas Selinus (Selinunte heddiw) ac yna Himera. Yn ystod y goncwest hon dywedwyd iddo ladd tua 3,000 o garcharorion rhyfel o ran dial am y gorchfygiad a ddioddefodd ei daid, Hamilcar Mago, ym Mrwydr Himera 70 mlynedd ynghynt.
Yn 406 CC bu farw yn y pla a gychwynnodd yn ystod gwarchae Agrigento.