Harish Shankar | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1984 ![]() Penang ![]() |
Dinasyddiaeth | Maleisia, yr Almaen ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | arweinydd ![]() |
Arweinydd cerddorfa a phianydd o dras Almaenig a Maleisaidd yw Harish Shankar (ganwyd 1984).
Mae e wedi arwain cerddorfeydd rhyngwladol fel y Royal Philharmonic Orchestra, Cerddorfa Symffoni Bournemouth, Cerddorfa Frenhinol yr Alban a Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham. Yn 2024, bu'n arwain Cerddorfa Plant Cenedlaethol Prydain Fawr.[1]
Yn 2014, cafodd gymrodoriaeth iau mewn arwain gyda Choleg Cerdd Brenhinol y Gogledd, Manceinion. Rhwng 2024 a 2025, Harish oedd Cyfarwyddwr Cerdd cyffredinol Cerddorfa Symffoni Landestheater Schleswig-Holstein.[2][3]