Harri Webb

Harri Webb
Ganwyd7 Medi 1920 Edit this on Wikidata
Sgeti Edit this on Wikidata
Bu farw31 Rhagfyr 1994 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethllenor, bardd Edit this on Wikidata

Bardd Eingl-Gymreig, gweriniaethwr, a chenedlaetholwr oedd Harri Webb (7 Medi 192031 Rhagfyr 1994).

Ganwyd Harri ar y 7fed o Fedi 1920 yn Abertawe, yn 45 Heol Ty Coch ar gyrion y dref. Yn 1938 enillodd ysgoloriaeth yr awdurdod addysg lleol, ac aeth i brifysgol Rhydychen i astudio ieithoedd, gan arbenigo mewn Ffrangeg,Sbaeneg a Phortiwgaleg.

Bu yn aelod o Fudiad Gweriniaethwyr Cymru, ac yna o'r Blaid Lafur. Ond gadawodd y blaid wedi ei siomi gan ei hymateb i hunanlywodraeth i Gymru a'i gwrth-Gymreigrwydd ac ymunodd â Phlaid Cymru yn 1958.

Ni welai Harri Webb ddim gwahanaieth rhwng swyddogaeth gwleidyddiaeth a llenyddiaeth. Ysgrifennai yn bennaf yn Saesneg ond daeth ei gerdd Colli Iaith a ganwyd gyntaf gan Heather Jones yn rhan o'r gynhysgaeth Gymraeg.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne